Neidio i'r cynnwys

Gwirfoddolwyr Gwyddelig

Oddi ar Wicipedia
Gwirfoddolwyr Gwyddelig
Óglaigh na hÉireann<br/Irish Volunteers
Cyfranogwr yn -
Gwrthryfel y Pasg, Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon
Aelod o'r Gwirfoddolwyr Gwyddelig ar gofeb yn Nulyn, i gofio am y rhai hynny a fu farw yn y Rhyfel dros Annibyniaeth Iwerddon.
Yn weithredol1913 – tua 1921
IdiolegCenedlaetholdeb Gwyddelig
ArweinwyrEoin MacNeill
Éamon de Valera
PencadlysDulyn
Maes gweithredolIwerddon
Cryfder180,000 (cyn hollti)
15,000 (1916)
Newidiwyd ynByddin Weriniaethol Iwerddon
GwrthwynebwyrByddin Prydain
Heddlu Brenhinol Iwerddon

Mudiad militaraidd a sefydlwyd yn 1913 gan nifer o genedlaetholwyr Gwyddelig oedd y Gwirfoddolwyr Gwyddelig (Gwyddeleg: ''Óglaigh na hÉireann''; Saesneg: 'Irish Volunteers'). Fe'i ffurfiwyd fel ymateb i ffurfio'r Ulster Volunteers yn 1912. Ei amcanion oedd: "i sicrhau a chynnal hawliau a rhyddid holl drigolion Iwerddon".[1][2]

Roedd nifer o aelodau'r Gwirfoddolwyr Gwyddelig hefyd yn aelodau o'r Gynghrair Wyddelig (neu'r Conradh na Gaeilge, sy'n dal i fodoli heddiw (2016)), Hen Urdd yr Hiberniaid, Sinn Féin[3] a'r Frawdoliaeth Wyddelig Weriniaethol, sef yr IRB. Llinyn mesur o'u llwyddiant yw'r ffaith iddynt gynyddu eu haelodaeth dros nos - erbyn canol 1914 roedd ganddynt 200,000 o aelodau. Ym Medi'r flwyddyn honno fe'u holltwyd, fodd bynnag, yn bennaf oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf; credai Eoin MacNeill na ddylai gwyddelod ymladd ym Myddin Lloegr ac y dylai Iwerddon aros yn niwtral, barn John Redmond oedd y dylai aelodau'r Gwirfoddolwyr hefyd ymladd catrodau Gwyddelig o fyddin Lloegr. Er yr hollt, parhau wnaeth y Gwirfoddolwyr ac ymladdodd ei aelodau yng Ngwrthryfel y Pasg yn 1916, ochr-yn-ochr gyda Byddin Dinasyddion Iwerddon, Cumann na mBan, a Fianna Éireann. Yn 1919 bu hefyd yn rhan o Ryfel Annibyniaeth Iwerddon gan ailffurffio'n ddiweddarach yn fudiad a alwyd yn Fyddin Weriniaethol Iwerddon (1916–22).

Gwrthryfel y Pasg, 1916

[golygu | golygu cod]

Wedi ymadawiad Redmond, ailstrwythurwyd, a chafwyd cyfansoddiad a gadarnhawyd gan 160 o'u haelodau ar 25 Hydref 1914. Yn Rhagfyr, penodwyd y canlynol yn brif filwyr: Eoin MacNeill (Chief of Staff), The O'Rahilly (Cyfarwyddwr Arfau), Thomas MacDonagh (Prif Hyfforddwr), Patrick Pearse (Cyfarwyddwr Trefniadau Milwrol), Bulmer Hobson (Arfau) a Joseph Plunkett (Cyfarwyddwr y Gweithgareddau Milwrol). Yn 1915, ymunodd Eamonn Ceannt (Cyfryngau) a J.J. O'Connell (Prif Arolygydd).

Dan arweinyddiaeth MacNeill, bu'r Gwirfoddolwyr yn rhan o'r Gwrthryfel, er mai gweledigaeth y Frawdoliaeth Wyddelig Weriniaethol oedd y Gwrthryfel, mewn gwirionedd. Roeddent wedi sylweddoli fod ffocws Llywodraeth Prydain wedi symud - i gyfeiriad yr Almaen, ac y dylent wneud yn fawr o'r 'man gwan' hwn, drwy ymosod. Gorchmynodd Pearse dridiau o ymarfer, paredio a symudiadau - er mwyn eu cael yn barod i'r gwaith go iawn, ond sylweddolodd MacNeill beth oedd ar y gweill a cheisiodd eu hatal, ond ni pharhaodd yr oedi'n fwy na diwrnod.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Cyfieithiad o'r Saesneg: "to secure and maintain the rights and liberties common to the whole people of Ireland".
  2. Foy, Michael; Barton, Brian (2004). The Easter Rising. Sutton Publishing. tt. 7–8. ISBN 0-7509-3433-6.
  3. William O'Brien a Desmond Ryan (eds.), Devoy's Post Bag, cyfr. 2, tud. 439-41 (llythyr gan Patrick Pearse i John Devoy, 12 Mai 1914). Reproduced in National Library of Ireland, The 1916 Rising: Personalities and Perspectives Archifwyd 2008-02-29 yn y Peiriant Wayback, online exhibition, adalwyd 12 Medi 2015.